Polisiau

 

 


Mae nifer helaeth o ddisgyblion yr ysgol yn berchen ffôn symudol. Mae hyn yn cyflwyno sawl her i’r ysgol. Nid yw’n ymarferol i wahardd ffonau symudol yn gyfan gwbl, nac yn bosib casglu’r ffonau ar ddechrau pob diwrnod a’u dychwelyd ar ddiwedd pob dydd.


Y mae’r polisi yma yn caniatáu i ddisgyblion gael ffôn yn yr ysgol o dan y canllawiau a amlinellir isod.

1. Ni chaniateir defnyddio ffôn symudol i unrhyw bwrpas (gan gynnwys ffonio, anfon neges destun, defnyddio’r we, tynnu lluniau neu luniau fideo) mewn unrhyw wers .
2. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd amhriodol o’r ffonau symudol yn ystod yr amser egwyl / amser cinio.
3. Dylai’r ffôn gael ei throi i ffwrdd a’i chadw o’r golwg ym mhob gwers.
4. Pe bai disgybl yn torri’r rheolau uchod mae hawl gan yr athro i gymryd y ffôn a’i gadw mewn man diogel tan ddiwedd y wers (os mai mân darfu a fu) neu i’w chadw ym mhrif swyddfa’r ysgol tan ddiwedd y dydd. Fe ddychwelir y ffonau ar ddiwedd y dydd i’r unigolyn os mai achos unigryw oedd y camddefnydd.
5. Pe bai disgybl yn torri’r rheolau yn aml bydd yr ysgol (drwy’r Pennaeth Blwyddyn) yn cysylltu â’r cartref ac yn gofyn i’r rhiant / gwarcheidwad alw yn yr ysgol i drafod y mater ac i gasglu’r ffôn.
6. Ni chaniateir ffonau symudol mewn ystafell arholiad ar unrhyw achlysur.

Y Gyfraith:
O dan Adran 1 o’r Ddeddf Cyfathrebu’n Faleisus 1998, mae’n dor-cyfraith anfon neges amheus , anweddus neu fygythiol i unrhyw berson, boed yn llythyr ysgrifenedig neu’n electroneg. Yn yr un modd mae’n anghyfreithlon anfon neges o’r fath ar y ffôn hefyd.
Y gosb am dor-cyfraith o’r math hwn yw uchafswm o 6 mis o garchar , a/neu ddirwy hyd at £5,000.
Ymhellach, os bydd neges yn awgrymu y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn erbyn y diffynnydd, gall y gosb fod hyd 5 mlynedd o garchar. Os bydd neges yn hiliol gall y gosb fod hyd at 7 mlynedd.

Argyfwng:
Petai disgybl angen cysylltu gyda rhiant / gwarcheidwad fe ganiateir defnyddio ffôn yr ysgol yn y swyddfa yn rhad ac am ddim.
(Ni ddylai disgybl gysylltu yn uniongyrchol drwy ffôn symudol gyda rhiant / gwarcheidwad i ddweud eu bod yn sâl ac angen dod adref. Rhaid i’r disgybl weld Pennaeth Blwyddyn neu rywun yn y swyddfa cyn ffonio adref bob tro.)
Petai rhiant / gwarcheidwad angen cysylltu gyda disgybl ar frys mae modd cysylltu â swyddfa’r ysgol i adael neges. Bydd staff y swyddfa yn sicrhau bod y disgybl yn derbyn y neges.

Cyfrifoldeb am ffonau symudol:
Nid yw’r ysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am achosion o ddwyn, colli neu ddifrod i ffonau symudol tra ar y safle ac yn ystod oriau arferol yr ysgol. Cyfrifoldeb rhiant / gwarcheidwad yw gofalu fod yswiriant ar yr offer.

I lawrlwytho y polisi - cliciwch yma

1. Nodau ac Amcanion y polisi
Nodau
Mae Ysgol Glan y Môr wedi ymrwymo i sicrhau bod safonau asesu’n gyson, yn dryloyw ac yn cydymffurfio â gofynion ein cyrff dyfarnu. Rhaid i’r ffordd y mae gwaith myfyrwyr yn cael ei asesu gyflawni’r amcanion dysgu a nodwyd ar gyfer y rhaglenni rydym yn eu cynnig a hwyluso cyflawniad a datblygiad ehangach ein myfyrwyr.
Amcanion
a) Asesu gwaith myfyrwyr yn ddidwyll drwy fod yn gyson ac yn dryloyw yn ein penderfyniadau a’n prosesau asesu fel bod y canlyniadau’n deg, yn ddibynadwy ac yn ddilys.
b) Sicrhau bod safonau a manylebau asesu’n cael eu gweithredu’n llawn (yn llythrennol ac o ran ysbryd), fel nad oes unrhyw risg i enw da’r cyrff dyfarnu nac i’r cymwysterau rydym yn eu cynnig.
c) Sefydlu trefniadau rheoli ansawdd a chofnodi ar gyfer aseiniadau a’r broses o’u hasesu drwy system o samplu, safoni marciau, gwirio mewnol a chydgysylltu ar draws adrannau fel sy’n briodol i ofynion y rhaglenni rydym yn eu cynnig.
ch) Darparu dulliau asesu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, ac sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gyflawni ar lefelau sy’n gymesur â gofynion eu cwrs.

2. Ystod a chwmpas y polisi.
Mae’r polisi’n berthnasol i’r holl gyrsiau BTEC/OCR sy’n cael eu cynnig yn Ysgol Glan y Môr ond gallai fod yn berthnasol i gyrsiau eraill sy’n seiliedig ar aseiniadau hefyd pe baent yn dod yn rhan o’r cwricwlwm yn y dyfodol.

3. Asesu
Diffinnir Asesu Mewnol fel y broses lle mae staff yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â thystiolaeth a gynhyrchir gan fyfyrwyr ar gyfer y meini prawf sy’n ofynnol ar gyfer y cymhwyster BTEC /OCR. Rhaid i’r holl ddeunyddiau asesu sy’n cael eu paratoi gan yr ysgol gael eu gwirio’n fewnol a/neu’n allanol cyn eu rhoi i fyfyrwyr.
a) Bydd aseiniadau sydd wedi eu cwblhau gan fyfyrwyr yn cael eu hasesu’n fewnol, a byddant yn amodol ar wirio mewnol a safoni allanol gan y corff dyfarnu.
b) Rhaid sicrhau bod myfyrwyr yn deall y bydd unrhyw radd a roddir yn amodol ar graffu mewnol a/neu allanol, (safoni) ac mai’r corff dyfarnu fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
c) Mae’r Aseswr yn gyfrifol am sicrhau bod prosesau asesu’n gyson ac yn dryloyw, bod tystiolaeth yn ddilys, yn ddigonol, ac wedi’i chyflawni gan yr unigolyn ei hun, a bod y penderfyniad ynglŷn â’r dystiolaeth yn ddilys ac yn ddibynadwy.
ch) Rhoddir dyddiad cychwynnol i fyfyrwyr ar gyfer cwblhau pob aseiniad. Yn dilyn adborth, pennir dyddiad cwblhau newydd, ac ar ôl hynny bydd y gwaith yn cael ei asesu a’r canlyniad yn cael ei gofnodi ar daflen astudio’r myfyriwr. Yna bydd penderfyniadau’r asesiad yn cael eu gwirio’n fewnol yn unol â’r weithdrefn a amlinellir isod. Bydd cyfle arall i wella aseiniadau cyn y dyddiad cwblhau olaf ble bo rheolau’r fanyleb yn caniatáu hynny.
d) Rhaid cyflwyno’r holl waith cwrs ar y dyddiad a nodwyd. Os bydd gwaith yn cael ei gyflwyno’n hwyr, bydd yr Athro/Athrawes pwnc yn penderfynu a ddylai gael ei farcio yn unol â’r polisi ar waith cwrs.

3.1 Rôl yr Aseswr (athro/athrawes pwnc): Rôl yr Aseswr yw:
a) Gosod tasgau sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddangos beth maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud er mwyn iddynt gael cyfleoedd i gael y graddau uchaf posibl yn eu cyrsiau BTEC/OCR.
b) Sicrhau bod dysgwyr yn glir ynglŷn â’r meini prawf y disgwylir iddynt eu bodloni yn eu haseiniadau a’u bod yn cael cyfarwyddyd llawn ynglŷn â’r sgiliau y mae angen eu dangos yn rhannau gwaith cwrs / portffolio’r pwnc.
c) Annog myfyrwyr drwy roi adborth manwl ac arweiniad ynglŷn â sut i wella gwaith.
ch) Pennu dyddiadau interim ar gyfer cwblhau gwaith cwrs a chynghori myfyrwyr ynglŷn â faint o amser y byddai’n briodol ei dreulio’n gwneud y gwaith, gan sicrhau bod hynny’n gymesur â’r credyd sydd ar gael.
d) Marcio a dychwelyd drafftiau cyn pen pythefnos ar ôl iddynt gael eu cyflwyno.
dd) Cadw at fanyleb y Corff Dyfarnu wrth asesu aseiniadau myfyrwyr.
e) Cofnodi canlyniadau asesiad gan ddefnyddio dogfennau priodol. Cedwir canlyniadau’n ddiogel am dair blynedd, gan gychwyn o’r pwynt ardystio. Dylid cadw cofnodion gwirio mewnol cysylltiedig hefyd, er mwyn cefnogi a gwirio’r penderfyniadau a wnaethpwyd ar gyfer y grŵp.
f) Sicrhau bod pob ymgeisydd yn arwyddo i gadarnhau mai ei waith ef ei hun yw’r gwaith a bod hynny’n cael ei gadarnhau gan yr athro/athrawes ar ôl marcio’r gwaith. Rhaid rhoi dogfen wreiddiol wedi’i chwblhau ynghlwm wrth waith pob ymgeisydd ac wrth bob cais am sampl.
ff) Darparu cofnodion cywir o farciau gwaith cwrs a aseswyd yn fewnol i’r Swyddfa Arholiadau yn brydlon er mwyn eu trosglwyddo i’r corff dyfarnu.

3.2 Gwirio Mewnol

a) Mae’r Prif Wiriwr Mewnol yn ganolog i broses rheoli ansawdd rhaglenni BTEC. Y rôl yw sicrhau bod gwaith sy’n cael ei asesu’n fewnol yn bodloni safonau cenedlaethol yn gyson, ond gall hefyd arwain at ddatblygiad staff a gwella ansawdd.
b) Bydd Prif Wiriwr Mewnol wedi’i ddynodi ar gyfer pob cwrs. Bydd y Prif Wiriwr Mewnol hefyd yn ymwneud ag asesu neu osod gwaith ar gyfer y cwrs.
c) Bydd gan y Prif Wiriwr Mewnol wybodaeth a chymwysterau sy’n berthnasol i’r cymhwyster/cymwysterau a dyfarniad(au) eraill sy’n seiliedig ar hyfedredd y maent yn gyfrifol amdanynt er mwyn sicrhau bod modd gwneud penderfyniadau cywir ynglŷn â pherfformiad yr ymgeisydd mewn perthynas â meini prawf hyfedredd.
ch) Gwneir darpariaeth ar gyfer cyfathrebu rhwng athrawon / aseswyr pynciau er mwyn rhannu ‘arferion gorau’ a thrafod agweddau sy’n peri pryder. Bydd hyn yn digwydd fel arfer drwy gyfarfod blynyddol ar gyfer y Prif Wirwyr Mewnol lle bydd safonau a phrosesau’n cael eu trafod er mwyn sicrhau cymaint ag sy’n bosibl o gysondeb rhwng cyrsiau.
d) Rôl y Prif Wiriwr Mewnol: Dylai’r gwiriwr mewnol gyflawni’r canlynol.

Cynllunio:
• Monitro er mwyn sicrhau bod y rhestr dyddiadau gwirio mewnol yn cynnwys pob uned a phob aseswr ar y rhaglen.
• Rhoi cyngor ynglŷn â dehongli safonau cenedlaethol.
• Cydgysylltu trefniadau asesu, gan gynnwys safleoedd lluosog a chonsortia fel y bo’n briodol.
• Sicrhau bod briff pob aseiniad wedi cael ei wirio’n fewnol cyn ei roi i’r dysgwyr.
Gweithredu:
• Sicrhau bod system effeithiol ar gyfer cofnodi cyflawniad dysgwyr wedi cael ei sefydlu.
• Rhoi cyngor ynglŷn â chyfleoedd i gynhyrchu a chasglu tystiolaeth.
• Cadw cofnodion o’r broses wirio am 3 blynedd ar ôl ardystio.
• Cysylltu â gwirwyr allanol.
Asesu / Gwirio mewnol:
• Darparu cyngor a chefnogaeth i aseswyr yn rheolaidd.
• Rhoi cyngor ynglŷn â pha mor briodol yw tystiolaeth asesu o ran lefel, digonolrwydd, gwaith yr unigolyn ei hun, dilysrwydd a chysondeb.
• Defnyddio arbenigedd mewn pwnc i samplu gwaith wedi’i asesu er mwyn gwirio penderfyniadau aseswyr.
• Archwilio ansawdd asesiad er mwyn sicrhau ei fod yn gyson, yn deg ac yn ddibynadwy.
• Sicrhau bod ei benderfyniadau asesu ef neu hi ei hun yn cael eu gwirio’n fewnol gan rywun arall.
• Rhoi adborth i aseswyr a nodi’r camau sydd i’w cymryd lle bo’n briodol.
Gwaith dilynol:
• Sicrhau bod camau cywiro priodol yn cael eu cymryd pan nad yw briff aseiniad yn addas i’r diben neu pan nad yw penderfyniadau asesu’n gywir.
• Cymryd rhan yng nghamau ffurfiol unrhyw apêl.
• Cynghori tîm y rhaglen ynglŷn ag unrhyw anghenion hyfforddi.
• Darparu adborth am agweddau ar y system asesu i dîm y rhaglen, yr uwch reolwyr ac Edexcel.
Safoni:
• Rhaid safoni gwaith asesu pan fydd mwy nag un aseswr yn ymwneud â chyflwyno ac asesu aseiniad neu uned.
• Gellir defnyddio cyfarfodydd safoni i ddatblygu ansawdd a chysondeb yn y broses asesu rhwng aseswyr sy’n ymwneud â gwahanol unedau ar draws rhaglen BTEC neu raglenni BTEC gwahanol.

Gwirio briffiau aseiniadau’n fewnol
Rhaid i bob briff ar gyfer aseiniad sy’n cael ei lunio gan y ganolfan gael ei wirio’n fewnol cyn ei roi i’r dysgwr. Pwrpas hyn yw gwirio bod y briff yn addas i’r diben drwy sicrhau:
• Y bydd y tasgau a’r dystiolaeth yn caniatáu i’r dysgwr fynd i’r afael â’r meini prawf sydd wedi’u targedu.
• Bod y briff wedi ei ysgrifennu mewn iaith glir, sy’n hawdd ei deall.
• Bod rolau a thasgau dysgwyr yn berthnasol o safbwynt galwedigaethol ac yn briodol i lefel y cymhwyster.
• Bod cyfle cyfartal yn cael ei ystyried.
Yn ddelfrydol, dylai briffiau aseiniadau gael eu gwirio’n fewnol gan aelod o’r staff sy’n gyfarwydd ag asesu BTEC ac sydd â gwybodaeth bynciol am faes y rhaglen. Mae templed ar gael ar wefan Pearson. Nid yw’n orfodol, ond argymhellir yn gryf bod unrhyw ffurflen sy’n cael ei llunio’n fewnol yn ystyried a yw briff yr aseiniad:
• Yn cynnwys manylion cywir am yr uned.
• Yn cynnwys manylion cywir am y rhaglen.
• Yn nodi dyddiadau cwblhau clir ar gyfer asesu.
• Yn dangos yr holl feini prawf graddio perthnasol ar gyfer yr uned(au) y mae’r aseiniad yn ymdrin â hwy.
• Yn nodi meini prawf graddio perthnasol wedi’u targedu ar gyfer pob tasg.
• Yn nodi’n glir pa dystiolaeth y mae angen i’r dysgwr ei darparu.
• Yn debygol o gynhyrchu tystiolaeth sy’n briodol ac yn ddigonol.
• Wedi ei osod ar y lefel briodol.
• Yn nodi cyfnod o hyd priodol.
• Yn defnyddio iaith alwedigaethol addas.
• Wedi’i gyflwyno mewn fformat clir.
Dylid cofnodi canlyniad y broses wirio mewnol ar y ffurflen, ac os bydd y gwiriwr mewnol yn pennu camau i’w cymryd, dylai’r aseswr gwblhau a dychwelyd y ffurflen i’r gwiriwr mewnol er mwyn iddo ei chymeradwyo. Pan fydd yr aseiniad wedi’i wirio fel un sy’n addas i’r diben, gellir ei roi i’r dysgwyr. Dylai’r gwiriwr allanol lofnodi’r ffurflen a nodi’r dyddiad arni i ddibenion archwilio.

Gwirio mewnol - penderfyniadau asesu

Rhaid i sampl o waith wedi’i asesu ym mhob uned a phob aseiniad gael ei wirio’n fewnol er mwyn archwilio cywirdeb y gwaith asesu.
Fel uchod, bydd y gwaith o wirio penderfyniadau asesu’n fewnol yn cael ei wneud yn ddelfrydol gan aelod o’r staff sy’n gyfarwydd ag asesu BTEC ac sydd â gwybodaeth bynciol am faes y rhaglen, ond gall staff sy’n gyfarwydd ag asesu BTEC ond sydd heb wybodaeth benodol am y pwnc wneud gwiriadau mewnol. Unwaith eto, dylid cofnodi gwiriad mewnol o waith wedi’i asesu. Os oes angen cymryd camau, dylai’r aseswr gwblhau hyn a dychwelyd y ffurflen i’r gwiriwr mewnol i gael ei chymeradwyo.
Ni ddylai’r holl waith o wirio penderfyniadau asesu’n fewnol gael ei wneud ar y diwedd. Mae’n bwysig ei fod yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo modd ar ôl asesu gan y bydd hyn yn gwella ansawdd y gwaith asesu heb roi dysgwyr dan anfantais.
Ceir templed ar wefan Pearson.
Nid yw’n orfodol, ond argymhellir yn gryf bod unrhyw ffurflen sy’n cael ei llunio’n fewnol yn cynnwys cofnod cywir o deitl y rhaglen, yr uned a’r aseiniad, ac enwau’r aseswr a’r dysgwr, a hefyd yn cynnwys y cwestiynau a ganlyn:
• Pa feini prawf a ddyfarnwyd gan yr aseswr?
• A ydynt yn cyfateb i’r meini prawf sydd wedi cael eu targedu gan friff yr aseiniad?
• A yw’r gwaith wedi cael ei asesu’n gywir?
• A oes adborth adeiladol am yr asesiad?
• A yw’r adborth yn gysylltiedig â meini prawf graddio perthnasol?
• A oes cyfleoedd i wella perfformiad wedi’u nodi?
Dylid cofnodi canlyniad y gwirio mewnol ar y ffurflen ac os oes camau’n cael eu cymryd gan y gwiriwr mewnol, dylai’r aseswr gwblhau hyn a dychwelyd y ffurflen i’r gwiriwr mewnol i gael ei chymeradwyo. Dylai’r gwiriwr allanol lofnodi’r ffurflen a rhoi’r dyddiad arni i ddibenion archwilio. Dyma ddolen gyswllt sy’n arwain at y ffurflen: Gwirio Mewnol – Briffiau Aseiniadau.

Y sampl Gwirio mewnol

Yn ystod y rhaglen, dylai pob aseswr, pob uned a gwaith o bob aseiniad gael ei samplu. Dylai’r sampl gael ei baratoi mewn ffordd sy’n rhoi sicrwydd pendant ynglŷn â’r broses asesu yn ei chyfanrwydd. Nid oes fformiwla algebraidd i bennu maint sampl ond dylai sampl sydd wedi’i baratoi’n dda ystyried:
• Yr ystod lawn o benderfyniadau asesu sydd wedi cael eu gwneud: dylid cynnwys gwaith sy’n bodloni meini prawf rhagoriaeth, meini prawf teilyngdod, meini prawf llwyddo a dim meini prawf yn y sampl os yw hynny’n bosibl.
• Profiad yr aseswr: dylai mwy o waith aseswyr newydd neu amhrofiadol gael ei wirio’n fewnol nag o waith aseswyr profiadol.
• Rhaglen BTEC newydd: pan fydd uned neu raglen yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf, dylid cynyddu’r sampl.
• Maint y grŵp o ddysgwyr.
• Gallai materion a nodwyd mewn ymarfer gwirio allanol blaenorol neu yn asesiad risg y ganolfan effeithio ar faint y sampl.
Sylwer y dylai’r holl friffiau aseiniadau gael eu gwirio’n fewnol cyn cael eu dosbarthu i ddysgwyr.

3.3 Sicrhau bod Gwaith yn Waith yr Ymgeisydd ei Hun

a) Ar bob aseiniad rhaid i fyfyrwyr lofnodi mai eu gwaith hwy eu hunain yw’r gwaith a gyflwynwyd a dylai athrawon / aseswyr gadarnhau mai gwaith yr ymgeisydd dan sylw yn unig yw’r gwaith a aseswyd a’i fod wedi cael ei wneud dan yr amodau gofynnol.
b) Os bydd y myfyriwr yn cyflwyno aseiniad a bod yr athrawon yn amau nad gwaith y myfyriwr ei hun yw’r aseiniad, dylid hysbysu’r Enwebai Ansawdd, a rhaid i’r Enwebai ymdrin â’r mater yn unol â pholisi gwaith cwrs yr ysgol.

4 Cyfrifoldeb

a) Yn gyfrifol am Bolisi: Enwebai Ansawdd
b) Yn gyfrifol am weithredu: Aseswyr Cwrs / athrawon pwnc, Prif Wirwyr Mewnol

4.1 Cyfrifoldeb athrawon yw:

a) Darparu prosesau asesu sy’n deg ac sy’n bodloni gofynion y myfyrwyr a’r cymhwyster;
b) Darparu rhestr o’r dyddiadau asesu i’r myfyrwyr;
c) Darparu adborth cywir, prydlon ac addysgiadol i’r myfyrwyr yn dilyn yr asesiad i roi gwybod iddynt am eu cynnydd unigol a dweud wrthynt beth y mae angen iddynt ei wneud er mwyn gwella lle bo’r fanyleb yn caniatáu hynny.
ch) Cofnodi penderfyniadau asesu yn rheolaidd, yn gywir ac yn systematig, gan ddefnyddio dogfennau cytunedig;
d) Cydymffurfio â chanllawiau’r Ysgol a’r Corff Dyfarnu ynglŷn â gwaith sy’n cael ei gyflwyno ar ôl y dyddiad cyflwyno a gwaith sy’n cael ei ailgyflwyno yn dilyn penderfyniad i atgyfeirio;
dd) Ymgyfarwyddo eu hunain a’r dysgwyr â gweithdrefn(au) Apeliadau Asesu’r Ysgol;
e) Bod yn ymwybodol o ganllawiau diweddaraf y Corff Dyfarnu ar gyfer asesu, cydymffurfio â safonau, safoni marciau a gwirio;
f) Sicrhau bod sicrwydd ynglŷn ag ansawdd y gwaith asesu drwy gydymffurfio â safonau, safoni marciau neu wirio mewnol fel sy’n ofynnol gan yr Ysgol a’r Corff Dyfarnu.
ff) Cofnodi penderfyniadau sy’n ymwneud â chydymffurfio â safonau, safoni marciau a gwirio mewnol yn gywir ac yn systematig gan ddefnyddio dogfennau cytunedig;
g) Darparu trefniadau arbennig ar gyfer dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu a/neu anableddau yn unol â rheoliadau’r corff dyfarnu.

4.2 Mae Prif Wirwyr Mewnol yn gyfrifol am y canlynol:

a) Gwirio briffiau aseiniadau cyn eu dosbarthu i ddysgwyr;
b) Gwirio sampl o benderfyniadau asesu;
c) Datblygu sgiliau aseswyr, yn enwedig y rhai hynny sy’n newydd i asesu;
ch) Cynnal cysondeb penderfyniadau asesu drwy gynnal cyfarfodydd i’r aseswyr sicrhau cydymffurfiad â safonau.

4.3 Cyfrifoldeb y Swyddfa Arholiadau yw:

a) Hwyluso’r broses wirio mewnol;
b) Cydymffurfio â’r dyddiadau cau ar gyfer cofrestru dysgwyr gyda’r corff dyfarnu;
c) Sicrhau bod data’r corff dyfarnu’n cael ei gadw’n gyfredol drwy dynnu enwau dysgwyr oddi ar y rhestr neu eu trosglwyddo;
ch) Hawlio tystysgrifau dysgwyr cyn gynted ag y bo’n briodol;
d) Hawlio ardystiad uned pan nad yw dysgwr wedi gallu cwblhau’r rhaglen astudio lawn.

4.4 Cyfrifoldeb Enwebai Ansawdd yr Ysgol yw trosglwyddo gwybodaeth gan y cyrff dyfarnu i dimau cyrsiau, a sicrhau bod prosesau a dogfennau’n cael eu safoni ar draws y rhaglenni.

Adolygwyd : Mawrth 2016
Mabwysiadwyd : Mawrth 2016
Arwyddwyd: W. Bryn Williams

I lawrlwytho y polisi - cliciwch yma

POLISI ASESU DAN REOLAETH YSGOL GLAN Y MÔR

Amlinellu cyfrifoldebau staff - asesiadau dan reolaeth ac arholiadau allanol ar gyfer TGAU

Yn Ysgol Glan y Mor mae’r:
Uwch Dîm Rheoli
• Yn gyfrifol am gynnal asesiadau dan reolaeth mewn modd diogel ac wedi'u diogelu. Sicrhau bod asesiadau'n cydymffurfio â chanllawiau'r Cyd-gyngor Cymwysterau Cyffredinol a chyfarwyddiadau cyrff dyfarnu ar gyfer pynciau penodol.

• Ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, dechrau cydlynu â phenaethiaid adran/pwnc er mwyn amserlennu asesiadau dan reolaeth.

• Mapio'r gofynion cyffredinol o ran rheoli adnoddau ar gyfer y flwyddyn. Yn rhan o hyn, datrys:

• achosion o wrthdaro/problemau ynghylch amseru neu gynnal asesiadau dan reolaeth.
• materion sy'n deillio o'r angen am gyfleusterau arbennig (ystafelloedd, rhwydweithiau TG, amser allan o'r ysgol ac ati).

• Sicrhau bod gan yr holl staff perthnasol galendr digwyddiadau.

• Llunio, cyhoeddi a diweddaru polisi apelio mewnol ar gyfer asesiadau dan reolaeth.


Penaethiaid adran/cyfadran
• Penderfynu ar y corff dyfarnu a'r fanyleb ar gyfer cymhwyster TGAU arbennig.
• Rhoi gwybod i’r swyddog arholiadau o fewn yr amser cytunedig pa unedau/arholiadau mae’r disgyblion yn eistedd.

• Sicrhau y cyflawnir o leiaf 40 y cant o'r asesiad cyfan (asesiadau dan reolaeth ac/neu asesu allanol) yn y gyfres arholiadau lle caiff y cymhwyster ei ardystio, er mwyn bodloni'r gofyniad asesu terfynol yn unol â manyleb y corff dyfarnu.

• Safoni'n fewnol waith marcio'r holl athrawon sy'n cymryd rhan yn y gwaith o asesu cydran a asesir yn fewnol.

• Sicrhau bod athrawon unigol yn deall eu cyfrifoldebau mewn perthynas ag asesiadau dan reolaeth.

• Sicrhau bod athrawon unigol yn deall y gofynion ym manyleb y corff dyfarnu a'u bod yn gyfarwydd â'r nodiadau athro perthnasol, ac unrhyw gyfarwyddiadau eraill ar gyfer pwnc penodol.

• Lle bo'n briodol, datblygu tasgau asesu newydd neu roi tasgau asesu enghreifftiol y corff dyfarnu mewn cyd-destun sy'n cwrdd ag amgylchiadau lleol, yn unol â manylebau a gofynion rheoli'r corff dyfarnu.


Staff addysgu
• Deall â chydymffurfio â'r cyfarwyddiadau cyffredinol a geir yng nghyhoeddiad y Cyd-gyngor Cymwysterau Cyffredinol Cyfarwyddiadau ar gynnal asesiadau dan reolaeth.

• Deall a chydymffurfio â manyleb y corff dyfarnu ar gyfer cynnal asesiadau dan reolaeth, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddiadau ar gyfer pynciau penodol, nodiadau'r athro neu wybodaeth ychwanegol ar wefan y corff dyfarnu.

• Cyflwyno manylion yr holl godau uned i'r swyddfa arholiadau ar gyfer asesiadau dan reolaeth.

• Derbyn deunyddiau cyfrinachol/tasgau a osodir gan gyrff dyfarnu mewn da bryd er mwyn paratoi ar gyfer yr asesiad(au) a sicrhau bod deunyddiau o'r fath yn cael eu cadw'n ddiogel bob amser.

• Goruchwylio asesiadau (ar y lefel reoli benodedig). Cyflawni'r tasgau sydd eu hangen o dan y rheoliadau, gan ganiatáu i fyfyrwyr gael cymorth os yw'r fanyleb yn caniatáu hynny.

• Sicrhau bod myfyrwyr ac athrawon goruchwyliol yn llofnodi ffurflenni dilysu pan fydd asesiad wedi'i gwblhau.

• Marcio cydrannau a asesir yn fewnol drwy ddefnyddio'r cynlluniau marcio a ddarperir gan y corff dyfarnu. Cyflwyno marciau drwy'r swyddfa arholiadau i'r corff dyfarnu fel bo'n ofynnol, gan gadw cofnod o'r marciau a ddyfarnwyd.

• Cadw gwaith ymgeiswyr yn ddiogel rhwng sesiynau asesu (os ceir mwy nag un sesiwn).

• Ar ôl i'r ymgeiswyr gwblhau'r gwaith, ei gadw'n ddiogel tan y dyddiad cau ar gyfer ymholiadau ynglŷn â chanlyniadau. Os cyflwynir ymholiad, cadw gwaith ymgeiswyr yn ddiogel hyd nes bo canlyniad yr ymholiad ac unrhyw apêl ddilynol wedi'i gyhoeddi i'r ganolfan.

• Gofyn i'r cydgysylltydd anghenion addysgol arbennig priodol (SENCO) am unrhyw gymorth sydd ei angen i weinyddu a rheoli trefniadau mynediad.


Swyddog arholiadau / Swyddog gweinyddol
• Cofrestru myfyrwyr ar unedau unigol, boed y rheiny'n rhai a asesir drwy asesiad dan reolaeth, arholiad allanol neu brawf ar sgrin, cyn y dyddiad terfyn ar gyfer y cofrestriadau olaf.

• Mewnbynnu codau cyfnewid y myfyrwyr ar gyfer y gyfres arholiadau derfynol.

• Os yw'r swyddfa arholiadau'n derbyn deunyddiau cyfrinachol yn uniongyrchol, bod yn gyfrifol am dderbyn, cadw a throsglwyddo'r deunyddiau hynny'n ddiogel, boed hynny ar CD neu ar ffurf copi caled.

• Cynorthwyo staff i lawr lwytho a dosbarthu taflenni marcio, mewnbynnu marciau ar-lein ac anfon taflenni marcio i gyrff dyfarnu cyn y dyddiadau cau.

• Ar yr adegau prin pan na ellir cynnal asesiad dan reolaeth yn yr ystafell ddosbarth, trefnu lleoliad addas i gynnal yr asesiad dan reolaeth, ar gyfarwyddyd yr uwch dîm arwain.


Cydgysylltydd anghenion addysgol arbennig/cymorth dysgu ychwanegol
• Sicrhau yr ymgeisiwyd am drefniadau mynediad.

• Cydweithio â staff addysgu i sicrhau y bodlonir gofynion ar gyfer staff cymorth.

Adolygwyd : Mawrth 2016

Mabwysiadwyd gan y Llywodraethwyr: Mawrth 2016

Arwyddwyd: W. Bryn Williams

I lawrlwytho y polisi - cliciwch yma

Polisi Camymddygiad Staff (Arholiadau/asesu) Ysgol Glan y Môr

Mae gan Ysgol Glan y Môr weithdrefnau a dogfennau er mwyn lleihau’r risg o gamymddygiad ar ran staff yng nghyd-destun asesu. Dyma rai enghreifftiau o gamymddygiad:

• Peidio â chadw cynlluniau marcio corff/sefydliad dyfarnu yn ddiogel.

• Newid meini prawf asesu a graddio corff/sefydliad dyfarnu.

• Cynorthwyo dysgwr i gynhyrchu gwaith i’w asesu lle mae cefnogaeth anghyfartal neu lle mae aelod o’r staff wedi cynhyrchu gwaith i ddysgwr.

• Llunio datganiadau tystio wedi eu ffugio, er enghraifft fel tystiolaeth ar gyfer meini prawf nad yw’r dysgwr wedi cynhyrchu tystiolaeth ar eu cyfer.

• Caniatáu tystiolaeth y mae’r aelod o’r staff yn gwybod ei bod yn ganlyniad llên-ladrad.

• Hwyluso neu ganiatáu ffugio bod yn rhywun arall.

• Camddefnyddio’r amodau ar gyfer gofynion arbennig.

• Peidio â chadw cofnodion cyfrifiadurol dysgwr yn ddiogel.

• Ffugio cofnodion asesu.

• Hawliadau tystysgrifau twyllodrus.

Adolygwyd : Mawrth 2016

Mabwysiadwyd : Mawrth 2016

Arwyddwyd: W. Bryn Williams

 

I lawrlwytho y polisi - cliciwch yma

ARHOLIADAU - APELIADAU
Ysgol Glan y Môr
APELIADAU YN ERBYN ASESIAD MEWNOL O WAITH AR GYFER CYMWYSTERAU ALLANOL


Mae Ysgol Glan y Môr wedi ymrwymo i sicrhau pan fydd yr athrawon yn asesu gwaith myfyrwyr ar gyfer cymhwyster allanol, fod hyn yn cael ei wneud yn deg, yn gyson ac yn unol â'r fanyleb ar gyfer y cymhwyster dan sylw. Bydd asesiadau yn cael eu gwneud gan athrawon sydd â gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau priodol, ac sydd wedi eu hyfforddi yn y gweithgaredd yma. Bydd gwaith myfyrwyr yn cael ei gyflawni a'i ddilysu yn unol â gofynion y bwrdd arholi. Lle mae pecyn o waith wedi ei rannu rhwng athrawon, sicrheir cysondeb trwy safoni mewnol.

Os yw myfyriwr yn teimlo na ddigwyddodd hyn mewn perthynas â'i waith gall y myfyriwr wneud defnydd o'r drefn apelio hon. Noder mai dim ond yn erbyn y broses a arweiniodd at yr asesiad y gellir gwneud apeliadau ac nid yn erbyn y marc neu radd.


Hysbysir myfyrwyr a'u rhieni am y drefn hon yn llawlyfr yr ysgol.


Mae'r drefn hon ar gael gan bob athro, ac fe'i gosodir ar hysbysfyrddau yn yr ysgol.
1. Dylid gwneud apêl cyn gynted â phosib, a rhaid ei gwneud o leiaf bythefnos cyn diwedd y
papur diwethaf i'w asesu'n allanol yn y gyfres arholiadau. (Felly rhaid i'r apêl gael ei gwneud
cyn dyddiad arbennig ynghanol Mehefin ar gyfer cyfres yr haf fel y mae wedi ei hamserlennu
ar hyn o bryd.)
2. Dylid gwneud yr apêl yn ysgrifenedig i'r swyddog arholiadau, a fydd wedyn yn ymchwilio i'r
apêl. Os yw'r swyddog arholiadau wedi ymwneud yn uniongyrchol â'r asesiad dan sylw, bydd
y Pennaeth yn penodi aelod arall o'r gweithlu i wneud yr ymchwiliad. Bydd yr un peth yn
digwydd os yw'r swyddog arholiadau yn methu gwneud yr ymchwiliad am unrhyw reswm
arall.
3. Bydd y swyddog arholiadau neu aelod arall o staff yn penderfynu a oedd y broses a
ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesiad mewnol yn cydymffurfio â gofynion y corff gwobrwyo a
chod ymarfer arholiadau'r JCQ. Gwneir hyn cyn diwedd y gyfres. (Ar hyn o bryd, diwedd
Mehefin ar gyfer cyfres yr haf.)
4. Bydd yr athrawon oedd yn gyfrifol am wneud yr asesiad sy'n destun yr apêl yn cael cyfle i
weld copi o'r apêl ac i ymateb iddi'n ysgrifenedig, gyda chopi'n cael ei anfon at yr ymgeisydd.
5. Cewch gadarnhad ysgrifenedig o ganlyniad yr apêl, gan gynnwys unrhyw gyfathrebu efo'r
bwrdd, unrhyw newidiadau a wnaed i asesiad eich gwaith, ac unrhyw newidiadau a wnaed i
wella materion yn y dyfodol.
6. Rhoddir gwybod am ganlyniad yr apêl i'r Pennaeth. Cedwir record ysgrifenedig o'r apêl ac fe fydd ar gael ar gyfer y corff gwobrwyo os bydd gofyn amdano. Petai'r apêl yn dangos unrhyw
anghysondeb arwyddocaol, rhoddir gwybod i'r corff gwobrwyo.
Wedi i'r gwaith gael ei asesu'n fewnol caiff ei safoni gan y corff gwobrwyo (bwrdd arholi) i sicrhau cysondeb rhwng canolfannau. Mae safoni o'r fath yn aml yn newid marciau a ddyfernir ar gyfer gwaith a asesir yn fewnol. Mae hyn y tu hwnt i reolaeth Ysgol Glan y Môr ac nid ymdrinnir â hyn o fewn y drefn dan sylw. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â hyn, gofynnwch i'r swyddog arholiadau am gopi o drefn apelio'r bwrdd arholi perthnasol.

Ar gyfer cyrsiau BTEC

Os bydd myfyriwr yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad asesu, rhaid dilyn y camau sy’n cael eu hamlinellu isod:-
• Cyn pen 5 diwrnod rhaid i’r myfyriwr gysylltu â’r aseswr i drefnu cyfarfod anffurfiol i drafod y penderfyniad asesu.
• Os yw’r myfyriwr yn dal yn anfodlon, yna rhaid cyflwyno apêl i’r Enwebai Ansawdd.
• Bydd hyn yn caniatáu i’r myfyriwr gyflwyno rhesymau pam y dylai ei aseiniad gael ei ailasesu. Dylid gwneud hyn cyn pen 5 diwrnod ar ôl cyfarfod yr aseswr.
• Bydd yr aseiniad yn cael ei ailasesu gan Wiriwr Mewnol a fydd yn rhoi adborth i’r myfyriwr cyn pen un wythnos waith.
• Os yw’r myfyriwr yn dal yn anfodlon, yna gall ef / hi apelio i’r Gwiriwr Allanol drwy’r Enwebai Ansawdd.


Sail dros Apelio
Gellir cyflwyno apêl dan yr amgylchiadau a ganlyn:
• Os yw’r myfyriwr yn anfodlon â chanlyniadau asesiad unigol ar gyfer elfen o uned neu feini prawf perfformiad unigol.
• Os yw’r myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad ei asesiad ar ddiwedd y cwrs.
• Os oes gan y myfyriwr unrhyw amgylchiadau personol a allai fod wedi effeithio ar ei allu ef neu hi i gwblhau’r aseiniadau a chadw at y dyddiadau cwblhau.

Adolygwyd : Mawrth 2016
Mabwysiadwyd : Mawrth 2016
Arwyddwyd: W. Bryn Williams

I lawrlwytho y polisi - cliciwch yma

POLISI ADY YSGOL GLAN Y MÔR

Egwyddorion ac Amcanion
Egwyddorion

• Mae’r ysgol hon yn anelu at sicrhau cyfle cyfartal cwricwlaidd a chymdeithasol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
• Mae’r ysgol hon yn anelu at gydweithio’n effeithiol ag asiantaethau statudol ac eraill perthynol i’r plentyn a’i anawsterau.
• Mae’r ysgol hon yn anelu at weithio’n agos gyda rhieni er mwyn sicrhau partneriaeth effeithiol i helpu’r disgybl.
• Mae’r ysgol hon yn rhoi pwyslais ar gyfraniad y disgybl ac yn rhoi pob ystyriaeth i’w farn.
• Mae’r ysgol hon yn anelu at sicrhau ymateb ysgol gyfan i helpu’r disgybl.

Amcanion

• Sicrhau bod cyfundrefn yn bodoli yn yr ysgol i adnabod yn gynnar y plentyn sydd ag anawsterau a all fod yn llesteirio ei addysg.
• Casglu gwybodaeth ynghyd gan athrawon, rhieni, y disgybl ac eraill i sicrhau y ceir y ddealltwriaeth orau am natur anawsterau’r plentyn.
• Sicrhau caiff y ddarpariaeth angenrheidiol ei gwneud ar gyfer unrhyw ddisgybl sydd ag anghenion addysgol arbennig.
• Ceisio sicrhau cydweithrediad a chefnogaeth y rhieni ac eraill mewn perthynas ag adnabod a darparu gwasanaeth.


Enw’r Cydlynydd ADY
Y Cydlynydd ADY yw Mrs. Siwan Ll. Roberts a’r Llywodraethwr Dynodedig yw Mrs Eleri Ll Owen.

1. Gwybodaeth am y ddarpariaeth ADY
Y trefniadau ar gyfer cydgordio’r ddarpariaeth
Y Cydlynydd sydd yn gyfrifol am gydgordio’r gwasanaeth o fewn yr ysgol Cyfrifoldebau’r Cydlynydd yw:

• Gweithredu’r polisi o ddydd i ddydd
• Cydgysylltu a chydweithio gydag athrawon a’u cynghori am y ddarpariaeth
• Cydgysylltu a rhieni disgyblion ADY
• Cydgysylltu’r ddarpariaeth i ddisgyblion ADY
• Cadw cofnodion ADY yr ysgol a goruchwylio cofnodion pob disgybl ag ADY yn rheolaidd
• Cydgysylltu ag asiantaethau cynnal eraill ee. addysg. Iechyd, cymdeithasol, gwirfoddol
• Sicrhau adolygu’r trefniadau’n rheolaidd
• Bwydo anghenion hyfforddiant i mewn i gynllun datblygu’r ysgol.


Trefniadau Mynediad
Mae’r ysgol hon yn derbyn disgyblion ag ADY i mewn i’r ysgol drwy

• Gydweithio gyda’r asiantaethau cynnal wrth dderbyn disgybl newydd
• Fynychu cyfarfodydd swyddogol, fel adolygiadau datganiadau ee trosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd, symud o ysgol arbennig
• Drafodaethau a derbyn gwybodaeth . ee symud ysgol i ysgol
• Drafod a rhieni
• Ymdrin â’r cais mewn dull cadarnhaol ac o fewn yr amgylchiadau sy’n bodoli o fewn yr ysgol ar yr adeg dan sylw
• Ddarparu cefnogaeth sensitif a phriodol er mwyn sicrhau y bydd disgybl yn cael ei gynnwys yn holl weithgareddau’r ysgol yn unol â Deddf Hawliau’r Anabl


Arbenigedd ADY ac unrhyw unedau arbennig
Mae staff yr ysgol yn dilyn pob cwrs bosib sydd yn ymwneud ag ADY.

2.Gwybodaeth ar adnabod, asesu a darparu ar gyfer disgyblion ag ADY
Yn yr ysgol hon yr ydym yn canfod anghenion addysgol yn fuan drwy:

• Gael tystiolaeth o arsylwadau ac asesiadau athrawon gan gofio fod pob athro yn athro ar blant ADY
• Edrych ar berfformiad y disgyblion yn erbyn disgrifiadau y Cwricwlwm Cenedlaethol
• Sicrhau fod dulliau sgrinio ac asesu safonedig yn wybyddus i bob athro. Defnyddir profion a safonedig cenedlaethol.
• Fod yn agored a pharod i ymateb pan fo rhieni yn mynegi pryder, pryder y disgybl ei hun neu bryderon gan weithwyr proffesiynol eraill.


Trefniadau ar gyfer darparu mynediad i ddisgyblion ag ADY i gwricwlwm eang a chytbwys, gan gynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol

Bydd pob disgybl ADY yma’n cymysgu’n llwyr gyda’r disgyblion eraill ym mhob agwedd o’r cwricwlwm. Os cyfyd anawsterau, yna:

• Rhoddir sylw unigol iddynt o fewn y dosbarth
• Paratoir gwaith unigol iddynt gan yr athrawon dosbarth a gan yr athrawes ADY
• Trefnir iddynt gydweithio â phlant eraill
• Ymgynghorir gydag asiantaethau cynhaliol
• Cynhelir trafodaethau gyda rhieni
• Llunio’r cynllun addysg unigol i ddisgyblion a fewn cyfnodau Cymorth gan yr ysgol, Cymorth gan yr ysgol a mwy, ac ar gyfer disgyblion 3* a Datganiad.


Sut mae disgyblion ag ADY yn cael eu cynnwys
O gyfeirio at “gynhwysiad” bydd yr ysgol yn darparu cefnogaeth sensitif a phriodol er mwyn sicrhau y bydd y disgybl yn cael ei gynnwys yn holl weithgareddau’r ysgol, fel y bo modd. Dilynir Côd Ymarfer Comisiwn Hawliau’r Anabl(Ysgolion) a’r Ddeddf ADY ac Anabledd 2001.

Adnoddau
Bydd cyllid digonol at ddiwallu anghenion addysgol disgyblion ADY yng nghyllideb yr ysgol, ar gyfer:

• Offer arbenigol
• Llyfrau i athrawon
• Dodrefn arbennig
• Newidiadau i’r adeilad, tu mewn a thu allan
• Ystafelloedd arbennig o fewn yr ysgol
• Cymorth gan athrawesau arbenigol ar gyfer rhai disgyblion

Anelir i roi cymorth ADY yn bennaf mewn ‘Brain Gym’ ar gyfer sgiliau Llythrennedd ee. darllen, ysgrifennu a sillafu., a Rhifedd Mae’r mwyafrif o’r cymorth Mathemateg yn cael ei wneud yn y dosbarth trwy wahaniaethu. Mae trefniadau adolygu cynnydd y disgyblion yn bodoli a gwneir hyn drwy adolygiadau tymhorol a thrwy drafodaethau manwl rhwng y rhieni a’r athrawon gan roi pwyslais ar gyfraniad y disgybl.

Trefniadau ar gyfer ystyried cwynion am y ddarpariaeth ADY
Gall rhiant sydd â chwyn gysylltu â’r canlynol yn y lle cyntaf:

• Y Cydlynydd ADY
• Pennaeth
• Cynrychiolwyr y rhieni ar y Llywodraethwyr
• Y Llywodraethwr/wraig penodedig ADY

Os nad yw’r ffyrdd yma yn cynnig ateb i’r gwyn yna gall rhiant ddilyn y sianelau isod:

Y ddogfen trefniadau lleol ar gyfer ystyried cwynion a wneir dan Adran 23 y Ddeddf Diwygio Addysg sydd ar gael ymhob ysgol.

3.Gwybodaeth am bolisiau staffio a phartneriaeth â chyrff allanol Trefniadau’r ysgol ar gyfer hyfforddiant mewn swydd ADY

  • Y cydlynydd i adnabod anghenion hyfforddi gan fwydo i mewn i broses o ddatblygu’r ysgol, ee. Cynllun Datblygu
    • Gwneud cais am gymorth hyfforddi drwy ddefnyddio cyllid ysgol neu grantiau megis Cau’r Bwlch.


Mae’r gwasanaeth cefnogi yn yr Awdurdod ar gael drwy’r Cydbwyllgor a thrwy Cynnal. Darperir gwasanaeth gan:

  • • Y Gwasanaeth Seicolegol Addysgol – Mrs Iona Rees
    • Athrawon ymgynghorol arbenigol – nam ar y golwg, nam ar y clyw, nam corfforol

Trefniadau ar gyfer partneriaeth â rhieni
Mae’r ysgol hon yn cydnabod y dylanwad holl bwysig sydd gan rieni ar gynnydd addysgol eu plant. Er mwyn sicrhau partneriaeth effeithiol bydd yr ysgol hon yn annog cydweithrediad gan y rhieni:

  • • talu sylw proffesiynol i bryderon rhieni gan sicrhau bod yr ysgol yn trafod y pryderon gyda’r rhiant am amser rhesymol ac ar yr amser cyfleus cyntaf
    • cysylltu â’r rhieni wrth gofrestru’r plant ar unrhyw un o’r cyfnodau – gweithredu gan yr ysgol neu gweithredu gan yr ysgol a mwy gan ofyn am eu barn a’u sylwadau
    • rhoi lle amlwg i gymorth y rhiant lle bo hynny’n briodol
    • rhoi sylw proffesiynol i farn y rhieni wrth lunio cynlluniau addysgol unigol
    • rhannu gwybodaeth am ffynonellau cymorth
    • sicrhau fod y polisi hwn yn ei gyfanrwydd ar gael i’r rhieni ei ddarllen
    • cynnwys y rhieni mewn adolygiadau rheolaidd am eu plentyn
    • darparu adran yn Llawlyfr yr Ysgol yn trafod ADY

Cysylltiadau ag ysgolion prif-lif eraill ac ysgolion arbennig, gan gynnwys trefniadau pan fydd disgyblion yn newid neu’n gadael ysgol
Mae gan yr ysgol gysylltiadau agos ag ysgolion y dalgylch ac yn cyfarfod pan fydd disgybl yn:

  • • symud o ysgol prif-lif i ysgol prif-lif arall - cysylltu am fanylion, cysylltu â’r Cydbwyllgor Anghenion Arbennig
    • symud o ysgol gynradd i uwchradd – natur y cyswllt, trosglwyddo gwybodaeth, mynychu cyfarfodydd adolygu
    • symud i ysgol arbennig neu yn ôl i’r prif-lif - natur y cyswllt, trafodaethau rhwng yr ysgolion â’r Cydbwyllgor Anghenion Arbennig
    • gadael ysgol – natur y cyswllt, cyfarfodydd â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd.
    • Yr ydym hefyd yn cydweithio gydag ysgolion ac yn cael cyfarfodydd a hyfforddiant dalgylch/ sirol.


Cysylltiadau â gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, y gwasanaeth lles addysg a chyrff gwirfoddol
i. Gwasanaeth Iechyd
Gellir cyfeirio at y Nyrs Ysgol - yn ymwelydd rheolaidd ac yn bwynt cyswllt â phersonél eraill. Hefyd mae’r Meddyg Ysgol yn ymweld o leiaf unwaith y flwyddyn a gellir trafod achosion gyda’r meddyg. Yn ogystal gellir cysylltu’n ffurfiol gyda’r meddyg, gyda chaniatâd y rhieni, i ofyn am wybodaeth berthnasol i addysg y plentyn.

ii. Gwasanaethau Cymdeithasol
Y pwynt cyswllt cyntaf yw’r Gwasanaeth Lles Addysg er mwyn cyfeirio’r ysgol tuag at y man priodol. Efallai fod gan ysgolion unigol gyswllt ag aelodau o’r gwasanaeth, rhain wedi eu datblygu dros nifer o flynyddoedd. Rhaid cofio y gellir ffonio’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar unrhyw adeg os oes pryder ynghylch plentyn.

iii. Gwasanaeth Lles Addysg
Yn aml mae’r Swyddog Lles yn ymwelydd rheolaidd â’r ysgol a defnyddir y swyddog i ymweld â chartrefi lle bo angen. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig arweiniad a chymorth gan gyfeirio’r ysgol at asiantaethau eraill.

iv. Cyrff Gwirfoddol
Cynhwysir rhestr o ffynonellau cymorth yng nghefn ffeil Y Côd Ymarfer Newydd Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002

v. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)

vi. Gyrfa Cymru

vii. Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant

Y meini prawf ar gyfer arfarnu llwyddiant y polisi ADY hwn

O adrodd yn flynyddol i’r rhieni yn yr Adroddiad Blynyddol bydd Llywodraethwyr yr ysgol hon yn cyfeirio at y materion isod:

• A yw’r polisi’n darparu arweiniad eglur i athrawon yr ysgol?
• A oes newidiadau wedi bod yn y polisi dros y flwyddyn? Os oes, beth?
• Beth oedd dyraniad cyllidol yr ysgol gogyfer ag ADY a sut y defnyddiwyd y cyllid?
• A yw’r trefniadau yn gweithio’n effeithiol?
• Sawl plentyn sydd ar gyfnod anghenion arbennig?
• Sawl plentyn sydd yn derbyn sylw ychwanegol?
• Beth yw datblygiad y disgyblion yma? A yw’n bosib mesur cynnydd yn eu sgiliau?
• A oes athrawon wedi bod ar gyrsiau yn y maes?
• A oes cyfarfodydd wedi eu trefnu ymysg yr athrawon?
• A dderbyniwyd unrhyw sylwadau oddi wrth rieni?
• Beth oedd casgliadau unrhyw arolwg allanol o’r ddarpariaeth ADY?

Mabwysiadwyd y polisi : Mai 2016

Arwyddwyd : Cadeirydd : __________________________________

I lawrlwytho y polisi yma, cliciwch yma

Cyflwyniad i’r polisi:
Mae Ysgol Glan Y Môr yn cymryd rhan yng Nghynllun Ysgolion Iach Gwynedd ac yn unol â’r Cynllun yn adolygu Polisi Addysg Rhyw & Pherthnasedd yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.

Cred yr ysgol fod ei Raglen Addysg Rhyw a Pherthynas yn cefnogi disgyblion drwy gyfnod eu datblygiad corfforol, emosiynol, moesol ac ysbrydol ac yn eu helpu i wneud penderfyniadau cyfrifol deallus ynghylch eu bywydau.

Mae’r Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol (APADGOS) 2008 yn yr adran Iechyd a Lles yn nodi:-
“Gellir helpu dysgwyr i gynnal eu hiechyd a’u lles emosiynol a chorfforol, cynnal eu twf a’u datblygiad, a gwybod sut i’w diogelu eu hunain. Wrth i blant a phobl ifanc ddatblygu’n rhywiol, mae angen iddynt ddeall newidiadau corfforol, rheoli teimladau rhywiol a mwynhau cydberthynasau diogel, cyfrifol a hapus. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygiadau hunanymwybyddiaeth a hunan barch, a datblygu eu hunan-dyb.”

“Mae angen gosod addysg rhyw a pherthnasoedd mewn fframwaith clir o werthoedd ac ymwybyddiaeth o’r gyfraith ar ymddygiad rhywiol. Mae’n ofynnol cyflwyno agweddau megis bywyd teuluol yn ei holl ffurfiau amrywiol, gan gynnwys priodas, ymddygiad rhywiol, ystyriaeth sy’n ymwneud â bod yn rhieni, a materion sensitif megis erthyliad mewn modd cytbwys, ac mae’n ofynnol trafod materion moesegol mewn modd gwrthrychol. Dylai’r dysgwyr wybod ble a sut y mae cael gafael ar gymorth a gwybodaeth bersonol.”

Yn unol a Deddf Addysg 2002, mae Ysgol Glan Y Môr yn diogelu a hyrwyddo iechyd a lles pob person ifanc.

Yn unol a’r Deddfwriaeth Cyfle Cyfartal mae’r ysgol yn sicrhau bod yr addysgu yn gynhwysol ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal ar gyfer pob disgybl ac yn annog cyfranogi ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.

‘Yn ei hanfod mae Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn dysgu egwyddorion meithrin perthynas sefydlog a chariadus, parch, cariad gofal ac adeiladu perthynas lwyddiannus gyda grwpiau cyfeillgarwch a'r gymuned ehangach". - Cylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru Rhif. 11/02. Mawrth 2002.

Mae Llywodraethwyr a Staff Ysgol Glan Y Môr yn hollol ymrwymedig i’r nodau ac amcanion a amlinellir ym Mholisi Addysg Rhyw a Pherthynas 2009. Adolygir y Polisi bob blwyddyn .

Y Broses Ymgynghori:
Rydym yn ymgynghori gyda’r Bwrdd Llywodraethol, athrawon sy’n cyflwyno’r pwnc, disgyblion, rhieni, nyrs ysgol, Cydlynydd Cynllun Ysgolion Iach Gwynedd ac Ymgynghorwyr Addysg.

Bydd yr ysgol yn rhoi cyfle i’r disgyblion arfarnu sesiynau Addysg Rhyw & Pherthnasedd ar ddiwedd y rhaglen er mwyn iddynt leisio’i barn ar gynnwys y gwersi. Mi fydd yr ysgol yn diwygio’r rhaglen yn unol â gofynion y disgyblion os bydd angen.

Hawl rhieni i eithrio'u plant
Mae gan rieni’r hawl i eithrio eu plant o’r elfennau hynny nad yw’n rhan statudol o’r Cwricwlwm Cenedlaethol 2008. Rhaid iddynt anfon cais ysgrifenedig i'r ysgol os ydynt am ddefnyddio'r hawl hwn.

Mae'r ysgol yn edrych ar Addysg Rhyw a Pherthynas fel cyfrifoldeb i'w rannu, a rhoddir gwybodaeth i'r rhieni am y Polisi, y rhaglen waith a'r adnoddau a ddefnyddir os dymunir. Os oes gan riant/gofalwyr bryder mae croeso iddynt drefnu i drafod gyda’r Pennaeth. Mae’r trefniant hwn wedi ei nodi yn llawlyfr yr Ysgol.

Amddiffyn Plant
Dylid atgoffa holl aelodau staff yr ysgol fod ganddynt ddyletswydd i ddilyn Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru os bydd unrhyw amheuaeth fod plentyn neu berson ifanc yn debygol o fod wedi cael ei gam-drin neu'n wynebu risg o ddioddef niwed arwyddocaol. Ni ddylai aelod o staff gytuno i gadw gwybodaeth o natur amddiffyn plentyn yn gyfrinach ond yn hytrach os bydd ganddo/i unrhyw bryder dylid dilyn ar unwaith Canllawiau Amddiffyn Plant
Cymru.

Rôl Arweinydd Pwnc mewn Addysg Rhyw a Pherthnasoedd fydd:

  • Cydlynu a ffurfioli polisi ARaPh yr ysgol drwy gynnwys cyfraniad pawb all gyfrannu iddo.
  • Rhoi gwybod i'r holl staff ac oedolion fydd yn cyflwyno ARaPh yn yr ysgol am gynnwys y polisi a'u goblygiadau hwy fel darparwyr.
  • Monitro a gwerthuso'r cynllun gwaith a gofalu bod yr holl ofynion statudol yn cael eu cyflawni.
  • Cysylltu gyda chynrychiolwyr Cyfnodau Allweddol priodol i sicrhau bod ymdriniaeth ddigonol, dilyniant a chynnydd boddhaol.
  • Monitro a gwerthuso'r rhaglen waith yn flynyddol o leiaf a pharatoi datganiad ysgrifenedig i'r Corff Llywodraethol ar derfyn pob blwyddyn academaidd.
  • Adolygu'r polisi, ei newid a'i ddiwygio os bydd angen o leiaf bob blwyddyn.
  • Asesu ac adnabod anghenion hyfforddiant staff yr ysgol fydd yn cyflwyno'r rhaglen.
  • Adolygu, a diweddaru adnoddau ARaPh o leiaf unwaith y flwyddyn a mesur eu heffeithiolrwydd a'u haddasrwydd i anghenion disgyblion yr ysgol.
  • Cydweithio gydag asiantaethau allanol a chydlynu eu cyfraniad i'r rhaglen ARaPh.
  • Gweithio gyda Rheini /Gwarchodwyr/Gofalwyr

Cysylltiadau rhwng Cyfnodau Allweddol
Mae’r ysgol yn cysylltu gydag ysgolion cynradd y dalgylch er mwyn sicrhau dilyniant a
datblygiad yn yr hyn a gyflwynir yng Nghyfnod Allweddol 2 a 3 ac er mwyn sicrhau darparu
rhaglen effeithiol.

Rôl Darparwyr Allanol
Mae'r ysgol yn sylweddoli gwerth cyfraniad asiantaethau allanol priodol a siaradwyr gwadd i
lwyddiant rhaglen ARaPh. Ond serch hynny rhaid i'r siaradwyr hyn wybod beth yw cynnwys
polisi'r ysgol a'r canllawiau a luniwyd i'w gyflwyno. Os daw asiantaethau allanol neu unigolion
dieithr i gynnig eu gwasanaeth dylai aelod o staff yr ysgol fod yn bresennol drwy gydol y
wers.

Dulliau Cyflwyno
Nôd yr ysgol fydd cynnig rhaglen drefnus gynlluniedig i ymdrin â Rhyw a Pherthynas.
Cyflwynir gwersi addysg gan aelodau o'r staff fydd wedi eu hyfforddi i gyflwyno Addysg
Rhyw a Pherthynas h.y. mewn gwersi ABaCh, Gwyddoniaeth, Addysg Grefyddol, Drama,
Iaith ayb ynghyd a gweithgareddau traws gwricwlaidd ac all-gwricwlaidd. Gwahoddir
siaradwyr gwadd allanol i atgyfnerthu’r rhaglen.

Deilliannau Dysgu Cyfnod Allweddol 3 Iechyd a Lles (Fframwaith ABCh 2008)

Dylai roi cyfle i’r dysgwyr:-

  • Dangos agwedd gyfrifol at gadw’r meddwl a’r corff yn ddiogel ac yn iach.
  • Datblygu agwedd cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill.

A deall:-

  • Y gyfraith sy’n ymwneud ag agweddau ar ymddygiad rhywiol
  • Am atal cenhedlu, heintiau rhywiol a drosglwyddir yn rhywiol a HIV o fewn cyddestyn perthnasoedd
  • Nodweddion perthnasoedd diogel a’r rhai a all arwain at gamdriniaeth
  • Rol priodas, pwysigrwydd perthnasoedd teulu sefydlog a chyfrifoldebau rhieni
  • Yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi a theimladau negyddol
  • Y manteision o gael mynediad i wahanol ffynonellau o wybodaeth, cymorth a chyngor

Datblygiad Moesol ac ysbrydol
Deall:-

  • Y gwerthoedd sy’n dda ac sy’n ddrwg yn eu barn hwy, a’r problemau moesol sy’n gysylltiedig a sefyllfaoedd bywyd
  • Eu credoau yng nhyd-destyn y rheiny sy’n bodoli yn y gymdeithas

Deilliannau Dysgu Cyfnod Allweddol 4 Iechyd a Lles
Dylai roi cyfle i’r dysgwyr:-

  • Dderbyn cyfrifoldeb personol am gadw’r meddwl a’r corff yn ddiogel ac yn iach.
  • Datblygu agwedd gyfrifol at gydberthnasau personol.

A deall:-

  • Y canlyniad byrdymor a’r canlyniad mwy hirdymor wrth wneud penderfyniadau am eu hiechyd personol.
  • Yr ystod o agweddau, cydberthnasau ac ymddygiad rhywiol a geir mewn cymdeithas.
  • Pwysigrwydd iechyd rhywiol a’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgarwch rhywiol, gan gynnwys achosion posibl o ecsbloetio rhywiol
  • Y nodweddion sy’n perthyn i fod yn rhiant effeithiol, ac effaith colled a newid ar gydberthnasau
  • Y mudiadau statudol a gwirfoddol sy’n hybu iechyd a lles emosiynol.
  • Sut i gael mynediad i gymorth personol a chyngor proffesiynol ynghylch iechyd yn hyderus

Datblygiad Moesol ac ysbrydol
Deall:-

  • Sut y mae credoau a gwerthoedd yn effeithio ar ffordd o fyw a hunaniaeth bersonol.
  • Y ffactorau sy’n ymwneud a llunio barn foesol.
  • Yr ystod o werthoedd ac egwyddorion sy’n llywio bywyd pobl.
  • Y gwerthoedd sy’n dda ac sy’n ddrwg yn eu barn hwy, a’r problemau moesol sy’n gysylltiedig â sefyllfaoedd bywyd
  • Eu credoau yng nhyd-destyn y rheiny sy’n bodoli yn y gymdeithas

Ymateb i faterion sensitif
Ni ddylai credo personol ac ymagweddiadau athrawon effeithio ar y modd y cyflwynir Addysg Rhyw a Pherthynas. Bydd athrawon yn gosod rheolau sylfaenol a dylid annog disgyblion i barchu barn a ffordd o fyw pobl eraill. Rhaid i athrawon geisio ymdrin â chwestiynau o natur sensitif mewn modd yr un mor sensitif, didwyll a diwahaniaethol.

Bydd cyflwynwyr Addysg Rhyw a Pherthynas yn dangos yn glir bod y rheolau a osodir i aelodau'r grŵp yr un mor berthnasol i'r athrawon eu hunain/arweinydd grŵp ac unrhyw ymwelwyr ddaw atynt.

Bydd y staff yn ymdrechu i ddiwallu anghenion pob plentyn ac i ddelio'n ddoeth gyda materion o natur sensitif. Ymdrinnir â'r materion canlynol yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.

• Aeddfedrwydd
Mae gofyn paratoi bechgyn a genethod ar gyfer eu cyfnod aeddfedrwydd drwy roi iddynt wybodaeth a hyder fydd yn eu cynorthwyo i wynebu'r newidiadau corfforol ac emosiynol perthynol.

• Mislif
Dylai bechgyn a genethod gael dysgu am gyflwr mislif a threfniadau sensitif a phwrpasol gael eu gwneud ar gyfer anghenion genethod.

• Atal cenhedlu
Mae gan Addysg Rhyw a Pherthynas a gyflwynir yn effeithiol mewn Ysgol Uwchradd swyddogaeth bwysig yn yr ymdrech i leihau beichiogrwydd ymhlith merched ifanc oed ysgol. Caiff disgyblion wybodaeth drylwyr am wahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu, a hynny'n cynnwys dulliau atal cenhedlu brys a'u heffeithiolrwydd. Rhoddir arweiniad ychwanegol ar sut i gael cyngor cyfrinachol, cyngor ymarferol, ac os bydd ei angen
triniaeth briodol. Rhaid cadw cydbwysedd deallus rhwng cadw at lythyren y ddeddf a'r angen i gynnig cyngor sensitif a thriniaeth.

Bydd y Nyrs ysgol a’r Gweithiwr Ieuenctid yn cynnal clinic wythnosol ar gyfer disgyblion sy’n dymuno cyngor am atal cenhedlu. Fe fydd yr ysgol yn gweithredu cynllun “Cardyn C” Cyngor Gwynedd a Môn. Mae Cynllun CERDYN-C Gwynedd a Môn yn rhwydwaith gydlynol sy’n dosbarthu condomau am ddim. Ceisia gynyddu hygyrchedd at gondomau a chefnogaeth iechyd rhywiol, a gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc . Ceisia sicrhau pan fo person ifanc yn cael mynediad at y cynllun, ei fod yn derbyn gwasanaeth safonol o ansawdd da mewn amrywiol ganolfannau ar draws Gwynedd.

• Erthyliad neu derfynu beichiogrwydd
Dylai cynnwys rhaglen ARhPh alluogi disgyblion i wybod manylion erthyliad a deall y goblygiadau, gwerthfawrogi sail gwahanol ddaliadau, a datblygu sgiliau cyfathrebu fyddai'n hwyluso'r dasg o drafod gyda rhieni a phroffesiynolwyr iechyd. Dylid parchu argyhoeddiad crefyddol plant a'u rhieni.

• Rhyw Diogel a Heintiau Trosglwyddiad Rhywiol gan gynnwys HIV/AIDS
Rhoddir i ddisgyblion uwchradd wybodaeth ffeithiol am ryw diogel a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Bydd hyn yn eu galluogi i ddefnyddio'n effeithiol y gwasanaethau sy'n helpu i atal/i drin ‘STI's a HIV/AIDS.’ Deuant i ddeall beth sy'n arfer peryglus ac i feithrin sgiliau pendantrwydd mewn perthynas ag eraill ac i osgoi cael eu dylanwadu, yn groes i'w graen, i gymryd rhan mewn gweithred rywiol neu weithred rywiol ddiamddiffyn.

• Tueddiadau Rhywiol
Anogir disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth deimladol a pharch tuag at eraill waeth beth fo'u tueddiadau rhywiol. Fe'u cefnogir i barchu cyd-ddyn a chydnabod bod amrywiaeth a gwahaniaethau yn bodoli mewn bywyd dynol.

Gweithdrefnau monitro a gwerthuso

Bydd dulliau gweithredu'r polisi yn cael eu monitro gan y Pennaeth a Chydlynydd Addysg Bersonol a Chymdeithasol/Arweinydd Pwnc. Ymgynghorir â'r bobl hyn pan adolygir y polisi:

  • Disgyblion
  • Cyngor yr ysgol
  • Rhieni/Gwarchodwyr/Gofalwyr
  • Athrawon
  • Bwrdd Llywodraethol
  • Gweithwyr profesiynol Iechyd
  • Asiantaethau Allanol


Adolygir y polisi hwn yn flynyddol.

I lawrlwytho y polisi yma, cliciwch yma

Polisi Amddiffyn Plant Ysgol Glan y Môr

1. Rhagarweiniad

1.1 Mae Ysgol Glan y Mor yn cydnabod yn llawn y cyfraniad y mae’n ei wneud i amddiffyn plant.

Mae tair prif elfen yn ein polisi:-

a. Atal drwy’r addysgu a’r cymorth bugeiliol sy’n cael ei gynnig i ddisgyblion;
b. Gweithdrefnau ar gyfer adnabod achosion neu amheuon o gam-drin ac adrodd arnynt. Oherwydd ein cysylltiad beunyddiol â phlant y mae staff yr ysgol mewn sefyllfa dda i sylwi ar unrhyw arwyddion allanol o gam-drin; a
c. Chefnogi disgyblion a allai fod wedi cael eu cam-drin.

1.2 Mae ein polisi’n berthnasol i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn yr ysgol, ac i’r bwrdd rheoli. Efallai mai cynorthwywyr cymorth dysgu, goruchwylwyr canol dydd, gofalwyr yn ogystal ag athrawon, fydd y pobl gyntaf y mae plentyn yn datgelu gwybodaeth iddynt.

2. Atal

2.1 Rydym yn cydnabod bod hunanwerth uchel, hyder, ffrindiau cefnogol a llinellau cyfathrebu da rhwng disgyblion ac oedolyn y gallant ymddiried ynddo yn helpu i ddiogelu disgyblion.

Felly bydd yr ysgol:-

a. Yn sefydlu a chynnal ethos lle mae’r plant yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu hannog i siarad, a lle’r ydym yn gwrando arnynt;
b. Yn sicrhau bod y plant yn gwybod bod oedolion yn yr ysgol y gallent fynd atynt os ydynt yn poeni neu mewn trafferthion;
c. Yn cynnwys, yn y cwricwlwm, weithgareddau a chyfleoedd Addysg Bersonol a Chymdeithasol i ymbweru plant i feddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddiogelu eu hunain rhag cael eu cam-drin ac i wybod at bwy i droi am gymorth; ac
d. Yn cynnwys, yn y cwricwlwm, deunydd i helpu plant i ddatblygu agweddau realistig at gyfrifoldebau bywyd fel oedolyn, yn enwedig o ran sgiliau gofal plant a magu plant.

3. Gweithdrefnau

3.1 Byddwn yn glynu at Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan sydd wedi cael eu cadarnhau gan y Bwrdd Diogelu Plant Lleol.

3.2 Bydd yr ysgol yn:-

a. Sicrhau bod ganddi uwch aelod o staff dynodedig sydd wedi derbyn yr hyfforddiant priodol;
b. Cydnabod rôl y person dynodedig ac yn trefnu cymorth a hyfforddiant. Efallai y bydd ysgolion eisiau sôn am yr hyfforddiant ychwanegol sy’n cael ei gyflawni gan eu person dynodedig;
c. Sicrhau bod pob aelod o staff a phob llywodraethwr yn gwybod:-
- enw’r person dynodedig a’i rôl;
- bod ganddynt gyfrifoldeb fel unigolion dros gyfeirio pryderon amddiffyn plant drwy ddefnyddio’r sianelau cywir ac o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnynt â’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant; a
- sut i weithredu ar y pryderon hynny os nad yw’r person dynodedig ar gael.
d. Sicrhau bod aelodau staff yn ymwybodol o’r angen i fod yn effro i arwyddion o gam-driniaeth ac yn gwybod sut i ymateb i ddisgybl a all ddatgelu camdriniaeth;
e. Sicrhau bod rhieni’n deall y cyfrifoldeb sydd gan yr ysgol a’r staff dros amddiffyn plant drwy nodi eu hymrwymiadau ym mhrosbectws yr ysgol;
f. Darparu hyfforddiant i’r holl staff fel eu bod yn gwybod:-
i. beth yw eu cyfrifoldebau personol;
ii. Beth yw’r gweithdrefnau lleol y cytunwyd arnynt;
iii. Bod angen bod yn effro i adnabod achosion o gam-drin; a
iv. Sut i gefnogi plentyn sy’n datgelu camdriniaeth
g. Hysbysu’r tîm gwasanaethau cymdeithasol lleol os:-
- bydd disgybl ar y gofrestr amddiffyn yn cael ei wahardd naill ai am dymor penodol neu’n barhaol; ac
- os yw disgybl sydd ar y gofrestr amddiffyn plant yn absennol o’r ysgol heb eglurhad am fwy na dau ddiwrnod (neu am ddiwrnod yn dilyn penwythnos);
h. Gweithio i ddatblygu cysylltiadau effeithiol ag asiantaethau perthnasol ac yn cydweithio, fel bo’r angen, â’u hymholiadau i faterion amddiffyn plant, gan gynnwys mynychu cynhadleddau amddiffyn plant, adolygiad cychwynnol a grwpiau craidd a chyflwyno adroddiadau ysgrifenedig i’r cynadleddau;
i. Cadw cofnodion ysgrifenedig o bryderon am blant (gan nodi’r dyddiad, y digwyddiad a pha gamau a gymerwyd), hyd yn oed lle nad oes angen cyfeirio’r mater i’r gwasanaethau cymdeithasol yn syth;
j. Sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu cadw’n ddiogel a than glo;
k. Cadw at y gweithdrefnau a nodir yng nghylchlythyr cyfarwyddyd Llywodraeth Cynulliad Cymru;
l. Sicrhau y llunnir gweithdrefnau recriwtio a dewis yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y cylchlythyr 34/2002 “Amddiffyn Plant: Atal Pobl Anaddas rhag Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc yn y Gwasanaeth Addysg”; a
m. Dynodi llywodraethwr amddiffyn plant i oruchwylio polisi ac arferion amddiffyn plant yr ysgol.

4. Cefnogi’r Disgybl Sydd Mewn Perygl

4.1 Rydym yn cydnabod y gallai plant sydd mewn perygl, sy’n wynebu camdriniaeth neu sy’n dyst i drais, gael eu heffeithio’n fawr gan hyn.

4.2 Efallai mai’r ysgol yw’r unig elfen a hafan sefydlog, ddiogel a sicr ym mywydau plant sydd mewn perygl. Er hynny, pan fyddant yn yr ysgol mae eu hymddygiad yn gallu bod yn herfeiddiol ac anystywallt, neu gallant fynd i’w cragen.

4.3 Bydd yr ysgol yn ceisio cefnogi’r disgybl drwy:-
a. Gynnwys pethau yn y cwricwlwm sy’n annog hunanwerth a hunan-gymhelliad (gweler adran 2 ar Atal);
b. Ethos yr ysgol yn:-
i. hyrwyddo amgylchedd cadarnhaol, cefnogol a diogel; ac yn
ii. Rhoi ymdeimlad o werth i ddisgyblion (gweler adran 2 ar Atal);
c. Un o amcanion polisi ymddygiad yr ysgol yw cefnogi disgyblion agored i niwed yn yr ysgol. Bydd pob aelod o staff yn cytuno ar ddull cyson o weithredu sy’n canolbwyntio ar ymddygiad y plentyn sydd wedi tramgwyddo ond heb niweidio hunanwerth y disgybl. Bydd yr ysgol yn ceisio sicrhau bod y disgybl yn gwybod bod rhai mathau o ymddygiad yn annerbyniol, ond ei bod hi neu ef yn cael eu gwerthfawrogi ac nad ydynt i’w beio am unrhyw gam-driniaeth sydd wedi digwydd;
d. Cael cyswllt cyson ag asiantaethau eraill sy’n cefnogi’r disgybl, fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc , y Gwasanaeth Seicoleg Addysg, y Gwasanaethau Cymorth Ymddygiad a’r Gwasanaeth Lles Addysg; a thrwy gadw cofnodion a hysbysu’r Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted ag y mae unrhyw bryder yn ailgodi.

4.4 Pan fydd disgybl ar y gofrestr amddiffyn plant yn symud o’r ysgol, byddwn yn trosglwyddo’r wybodaeth i’r ysgol newydd ar unwaith ac yn hysbysu’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

5. Bwlio

5.1. Mae ein polisi ar fwlio wedi’i nodi yn (dogfen ar wahân/polisi ymddygiad yr ysgol) ac mae’n cael ei adolygu’n flynyddol gan y corff llywodraethu.

6. Ymyrryd yn Gorfforol

6.1. Mae ein polisi ar ymyrryd yn gorfforol wedi’i nodi yn (dogfen ar wahân) ac mae’n cael ei adolygu’n flynyddol gan y corff llywodraethu.

7. Plant gyda Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig

7.1. Rydym yn cydnabod yn ystadegol mai plant gydag anableddau ac anawsterau ymddygiad yw’r rhai sydd fwyaf agored i gael eu cam-drin. Mae angen i staff yr ysgol sy’n delio â phlant gydag anableddau difrifol a lluosog, nam ar y synhwyrau a/neu broblemau ymddygiad ac emosiynol, fod yn arbennig o sensitif i arwyddion o gam-drin.

Y person dynodedig amddiffyn plant yn yr ysgol hon yw : Mrs Menai Jones , Y Pennaeth
Y Llywodraethwr Dynodedig yw : Cadeirydd Mr Iolo Jones
Y Swyddog Dynodedig Diogelu yn yr adran addysg yw..
Ffion Rhisiart Rhif ffôn: 01286 679007

Adolygwyd y polisi : Mai 2016
Mabwysiadwyd : Mai 17, 2016

Adolygwyd y polisi : Tachwedd 2016
Mabwysiadwyd: Tachwedd 29, 2016

I lawrlwytho y polisi yma, cliciwch yma

Polisi Gwrth-fwlio Ysgol Glan y Môr, Pwllheli

Datganiad polisi

Seilir polisi Gwrth-fwlio Adran Addysg Cyngor Gwynedd ar ddogfen ganllawiau Rhif:050/2011 Llywodraeth Cymru – Parchu Eraill: Trosolwg gwrth-fwlio.

Mae gan bob dysgwr ym mhob ysgol yr hawl i ddysgu heb ofn cael eu bwlio, beth bynnag yw’r math hwnnw o fwlio. Mae’n rhaid i bawb sy’n ymwneud ag addysg dysgwr gydweithio i sicrhau mai dyna beth sy’n digwydd.

Mae’n rhaid i ysgolion fynd ati’n weithredol i ymdrin â phob math o fwlio, a dylen nhw gymryd camau i atal ymddygiad bwlïaid yn ogystal ag ymateb i ddigwyddiadau pan fyddan nhw’n codi.

Y mae Adran Addysg Cyngor Gwynedd yn diffinio bwlio, yn unol â diffiniad Llywodraeth Cymru, fel gweithred sy’n:
• fwriadol niweidiol (gan gynnwys ymddygiad ymosodol)
• digwydd yn aml dros gyfnod o amser, gan gydnabod gall un digwyddiad yn unig achosi trawma i’r dysgwr a’i adael yn poeni y bydd yn digwydd eto
• anodd i ddioddefwyr amddiffyn eu hunain yn ei erbyn.

Mae barn dysgwyr unigol am yr hyn a olygir wrth fwlio hefyd yn elfen allweddol i’w hystyried

Mae ymchwil yn dangos y gall bwlio gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ifanc. I rai, gall greu effeithiau tymor hir sy’n achosi gofid a niwed i ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol.

Y mae perthynas rhwng cyrhaeddiad addysgol, presenoldeb a bodlondeb emosiynol plant a phobl ifanc yn cael ei chydnabod. Rhoddir cryn bwyslais ar sicrhau bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol am resymau addysgol â moesol.

Y mae’r ysgol yn cydnabod yr hawl sydd gan bawb sydd yn yr ysgol i gael eu parchu ac i fod yn hapus a hyderus. Mae unrhyw fath o fwlio yn mynd yn groes i hyn.

Y mae bwlio ran amlaf yn ymddygiad cyson sy’n gwneud i berson deimlo’n anghyffyrddus neu dan fygythiad. Gall yr ymddygiad fod yn fwriadol neu fel arall.
Gall bwlio fod-

• yn gorfforol- taro, gwthio, neu fygwth gwneud hynny;
• yn eiriol- bygwth, rhegi, galw enwau, lledaenu straeon;
• yn emosiynol neu yn seicolegol - gwneud hwyl ar ben rhywun, eu rhwystro rhag bod yn rhan o grŵp neu rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd, graffiti;
• yn hiliol- galw enwau, graffiti;
• yn rhywiol- ensyniadau, cyffwrdd amhriodol;
• yn gysylltiedig ag unrhyw anghenion arbennig sydd gan ddisgybl;
• yn dechnolegol – defnyddio technoleg newydd (y rhyngrwyd, ffôn symudol).
• yn digwydd rhwng disgyblion, plant eraill, rhieni neu staff.

Mae pob math o fwlio yn annerbyniol- gall bwlio wneud drwg mawr a dylid gwneud pob dim sy’n ymarferol bosib i’w rwystro; y mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn tanlinellu pwysigrwydd gwneud hyn. Bydd yr ysgol yn cymryd pob cyfle posib i danlinellu na fyddwn yn goddef bwlio o unrhyw fath. Caiff pob honiad o fwlio ei ystyried yn fater o bwys.

Byddai bwlio ar sail hîl yn amlwg yn mynd yn groes i bolisi gwrth-hiliaeth yr ysgol ac yn groes i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 2000.

Diffinio cyfrifoldebau:

Y Llywodraethwyr:
Bydd y Corff Llywodraethu-

• yn mabwysiadu polisi atal bwlio ac yn ei adolygu ei weithrediad effeithiol yn rheolaidd;
• yn dirprwyo gweithrediad dydd-i-ddydd y polisi i’r Pennaeth.

Y Pennaeth:
Bydd y Pennaeth-

• yn rhoi arweiniad i’r Corff Llywodraethu wrth lunio polisi atal bwlio ac wedyn yn adrodd am ei weithrediad;
• yn ymgynghori â phlant (drwy’r Cyngor Ysgol) ac â rhieni wrth lunio polisi;
• yn sicrhau bod penaethiaid blwyddyn yn gyfrifol am weithrediad dydd-i-ddydd y polisi;
• yn sicrhau hyfforddiant i’r staff i godi eu hymwybyddiaeth o fwlio a strategaethau i ymateb iddo a chynnwys arweiniad yn y Llawlyfr Staff;
• yn sicrhau bod pawb- yn staff ac yn ddisgyblion, yn ymwybodol fod unrhyw ffurf ar fwlio yn annerbyniol;
• yn sicrhau bod rhaglen Addysg Bersonol a Chymdeithasol y disgyblion yn rhoi arweiniad i ddisgyblion ar sut i ymateb i fwlio;
• yn hybu gweithgareddau atal bwlio yn yr ysgol gan sicrhau cyfle i gyrff megis ChildLine a’r NSPCC ddod i gynnig arweiniad i blant;
• yn trefnu cefnogaeth i blant sy’n cael eu bwlio, a rhai sydd yn bwlio e.e. drwy gyfarfod â’r Swyddog Llês Addysg;
• yn barod i gyfarfod rhieni plant sy’n cael eu bwlio ac yn trefnu i gyfarfod rhieni plant a geir yn euog o fwlio difrifol;
• yn trefnu i gosbi plant a geir yn gyfrifol o fwlio yn unol â Chanllawiau Disgyblaeth yr ysgol. Gall hyn gynnwys gwaharddiad mewn achos difrifol yn ymwneud â thrais a/neu gyfeirio'r mater i sylw'r heddlu;
• yn sicrhau bod canllawiau Polisi Amddiffyn Plant yr Awdurdod Addysg yn cael eu dilyn mewn achosion perthnasol;
• yn cadw cofnod o ddigwyddiadau difrifol o fwlio mewn ffeil. Bydd gan rieni disgybl a enwir yr hawl i weld copi o’r cofnod am eu plentyn.

Penaethiaid Blwyddyn:
Bydd y penaethiaid blwyddyn-

• yn gyfrifol am weithrediad dydd-i-ddydd y polisi;
• yn cynnig cyngor a chefnogaeth i ddisgyblion;
• yn cysylltu â rhieni ac yn trefnu i gyfarfod rhieni plant sy’n cael eu bwlio neu sy’n euog o fwlio difrifol;
• yn cyfeirio disgyblion sydd yn bwlio i sylw'r Swyddog Lles a/neu asiantaethau perthnasol eraill;
• yn cosbi plant sydd yn bwlio;
• yn cadw cofnod o achosion o fwlio.

Athrawon:
Bydd yr athrawon-

• yn ymwybodol bod pob ffurf ar fwlio yn annerbyniol;
• byth yn anwybyddu achos o fwlio;
• yn rhoi gwybod i Bennaeth Blwyddyn a/neu’r Uwch Dîm Rheoli am unrhyw gyhuddiad o fwlio y clywant amdano neu sefyllfa ble y maent yn amau bod bwlio yn digwydd;
• yn derbyn hyfforddiant am ddulliau i ymateb i fwlio ac yn cynnig arweiniad i ddisgyblion am hynny.

Y staff ategol:
Bydd staff ategol yr ysgol-

• yn ymwybodol bod pob ffurf ar fwlio yn annerbyniol;
• yn rhoi gwybod i Bennaeth Blwyddyn a/neu’r Uwch Dîm Rheoli am unrhyw gyhuddiad o fwlio y clywant amdano neu sefyllfa ble y maent yn amau bod bwlio yn digwydd.

Rhieni:
Bydd rhieni-

• yn rhoi gwybod i’r ysgol am ddigwyddiad o fwlio;
• yn adrodd wedyn am ddatblygiad y sefyllfa gan nodi a fu gwelliant/dirywiad;
• yn annog y plentyn i fynd i ddweud wrth staff am ddigwyddiadau o fwlio;
• yn cefnogi’r ysgol drwy beidio ag annog eu plant i dalu’r pwyth yn ôl.

Disgyblion:
Bydd disgyblion-

• yn rhoi gwybod i’r staff am ddigwyddiad o fwlio (eu bwlio hwy yn bersonol neu fwlio rhywun arall);
• yn adrodd wedyn am ddatblygiad y sefyllfa gan nodi a fu gwelliant/dirywiad;
• yn peidio ymateb drwy dalu’r pwyth yn ôl;
• yn manteisio ar gyfleoedd i drafod â disgyblion eraill;
• yn sylweddoli bod gwneud honiadau anwir am fwlio yn fater disgyblaethol;
• yn trafod y polisi mewn cyfarfod o Gyngor yr Ysgol.

Mabwysiadwyd : Mehefin 2015

Arwyddwyd : ______________________________

I lawrlwytho y polisi yma, cliciwch yma

POLISI CODI TÂL AM WEITHGAREDDAU ADDYSGOL
Bydd unrhyw daliadau sy’n cael ei godi gan yr Ysgol, yn unol â gofynion Deddf/Diwygio Addysg 1996. Cefnoga Llywodraethwyr yr ysgol syniadaeth gyffredinol y Ddeddf, ac yn enwedig yr egwyddor na ddylai unrhyw ddisgybl fethu manteisio ar gyfleoedd cwricwlaidd oherwydd taliadau.


1. BYDD TÂL LLAWN YN CAEL EI GODI (gan yr Ysgol neu'r Awdurdod) AR RIENI
DISGYBLION AM YR EITEMAU CANLYNOL:

(i) Deunydd crai ar gyfer pynciau megis Technoleg, Celf ac Arlwyo, lle mae'r rhieni wedi
nodi dymuniad i gadw'r deunydd gorffenedig.
(ii) Ffioedd Arholiadau :
a) lle NA pharatowyd y disgybl ar gyfer yr arholiad gan yr ysgol.
b) lle nad yw’r ysgol yn argymell fod angen i ddisgybl ail sefyll arholiad.
c) lle bu i'r disgybl, heb reswm digonol, fethu cwblhau'r cwrs.
ch) lle nad yw’r disgybl yn bresennol i sefyll arholiad (heb reswm dilys)
(iii) Pob gweithgaredd sy'n digwydd y tu allan i oriau ysgol oni bai eu bod yn angenrheidiol
at bwrpas arholiad allanol, y Cwricwlwm Cenedlaethol, neu ofynion statudol addysg
grefyddol.
(iv) Costau bwyd a llety ar gyfer gweithgareddau preswyl a drefnir gan yr ysgol neu'r
Awdurdod Addysg.
(vi) Costau cludiant o'r cartref i leoliad profiad gwaith ( ac eithrio yn achos disgyblion sydd
yn teilyngu cinio am ddim)

2. BYDD YR YSGOL, NEU'R AWDURDOD, YN CODI TÂL YN RHANNOL AM:

(i) Wersi offerynnol cerdd (yn unol â chynllun yr ysgol)
(ii) Difrod i ffenestri, drysau neu ffitiadau adeiladau’r ysgol, neu ar y bysiau sy’n deillio o
gamymddygiad disgybl.
(iii) Difrod i werslyfrau neu offer addysgol sy'n deillio o gamymddygiad y disgybl.

3. NI CHODIR TÃL AM:

(i) Fwyd a llety disgyblion sy'n mynychu cyrsiau maes preswyl i ddibenion arholiad allanol neu'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

4. Bydd yr ysgol yn ceisio cyfraniadau gwirfoddol gan rieni, i sicrhau fod gweithgareddau
dewisol yn ystod oriau ysgol yn parhau, er nad oes hawl mwyach i godi tâl amdanynt. Ni
ddylai unrhyw ddisgybl fethu manteisio ar gyfleoedd/ymweliadau oherwydd ei anallu i
dalu.

ADOLYGWYD: Medi 2016
MABWYSIABWYD GAN Y LLYWODRAETHWYR :Medi 29,2016
Arwyddwyd: Iolo Jones

I lawrlwytho y polisi yma, cliciwch yma

POLISI IAITH YSGOL GLAN Y MÔR, PWLLHELI

Nod yr ysgol yw hyrwyddo, i’r graddau mwyaf posib, ddatblygiad dwyieithog pob disgybl er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas. Mae’r ysgol wedi ei gosod yng Nghategori 2A yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn ogystal â rhoi pwyslais ar ddatblygu dwyieithrwydd dysgwyr y Gymraeg, amcenir hefyd at gadarnhau dwyieithrwydd disgyblion o gartrefi Cymraeg.

ETHOS IEITHYDDOL YR YSGOL

Er mwyn diogelu’r cydbwysedd cyffredinol rhwng y ddwy iaith, pwysleisir mai ethos Gymreig sydd i’r ysgol. Y Gymraeg felly yw iaith naturiol gyfathrebu’r ysgol a chynhelir gwasanaethau boreol a gweithgareddau’r ysgol yn bennaf yn y Gymraeg. Yn yr un modd, y Gymraeg yw iaith weinyddol yr ysgol. Anogir y disgyblion i ystyried y Gymraeg yn iaith naturiol y tu fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth.

CYFNOD BUGEILIOL

Grwpiau cymysg ieithyddol yw’r rhain. Cymraeg yw cyfrwng y cyfnodau bugeiliol yn ogystal ag agweddau megis gwasanaethau dosbarth a.y.b. Defnyddir y Gymraeg hefyd gyda’r dysgwyr elfennol / hwyrddyfodiad yn y dosbarthiadau hyn ag anogir hwy i wneud defnydd cynyddol o’r Gymraeg wrth i’r safon a’u medr i gyfathrebu wella.

CYMRAEG FEL PWNC

Ochr yn ochr â Saesneg, fe ddysgir Cymraeg fel pwnc i’r holl ddisgyblion hyd at flwyddyn 11. Ym mlwyddyn 7 i 9, dilyna’r mwyafrif llethol o ddisgyblion, yn Gymry cynhenid ac yn ddysgwyr da, y rhaglen astudio mamaeth.

Ym mlwyddyn 10 ac 11, dilyna’r Cymry cynhenid a’r disgyblion ail-iaith sydd wedi meistroli’r Gymraeg, gwrs TGAU Cymraeg Mamiaith. Bydd yr hwyrddyfodiaid yn dilyn y cwrs TGAU Cymraeg Sylfaenol. Yn yr un modd, darparir cwrs TLM Mamiaith a chwrs TLM. Ail-Iaith, yn ôl angen.

Y CYFRWNG DYSGU – CA3

Amcenir at sicrhau fod bob disgybl yn defnyddio’r ddwy iaith yn gyfrwng dysgu i amrywiol raddau a bod y ddarpariaeth hon yn ddilyniant addas i’r addysg ddwyieithog yn yr ysgolion cynradd.

Mae disgyblion carfan A (sef disgyblion â hyfedredd oed-berthnasol gyfochrog yn y Gymraeg a’r Saesneg), carfan B (sef disgyblion â hyfedredd priodol yn y Gymraeg ond angen atgyfnerthu rhai agweddau ar ei sgiliau ieithyddol yn y Saesneg) a charfan C1 (sef disgyblion â hyfedredd priodol yn y Saesneg ond angen atgyfnerthu rhai agweddau ar eu sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg) yn astudio o leiaf 70% o’r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgir y pynciau canlynol trwy’r Gymraeg i’r carfanau hyn.

Hanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefyddol, Celf, Technoleg, Mathemateg, Addysg Gorfforol, Ffrangeg. Bydd disgyblion carfan B yn dilyn Addysg Bersonol drwy’r Saesneg tra bo disgyblion carfan C1 yn ei ddilyn drwy’r Gymraeg. Dysgir Gwyddoniaeth a TG yn ddwyieithog i holl garfanau uchod.

Os gofynnir amdanynt bydd disgyblion carfan C1 yn derbyn copi Saesneg o gwestiynau / nodiadau papurau arholiadau mewn pynciau fel Daearyddiaeth a chânt eu defnyddio i’w cynorthwyo gyda’u gwaith.

Bydd disgyblion carfan C2 (sef disgyblion â hyfedredd priodol yn y Saesneg ond heb y sgiliau oed-berthnasol yn y Gymraeg yn gwneud eu gwaith drwy’r Saesneg.

Ymatebir i anghenion unigolion gyda disgyblion carfan CH (sef disgyblion â hyfedredd oed-berthnasol isel yn y ddwy iaith.

CA4

Dysgir Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg i bawb ond disgyblion Carfan C2. Cynigir yr holl bynciau dewisol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Y nod yw sicrhau dilyniant i’r hyn sy’n digwydd yn ystod CA3 a pharhau i hyrwyddo hyfedredd oed-berthnasol yn y ddwy iaith. Bydd y Cyd-gysylltydd Iaith yn trafod iaith y pynciau dewisol gyda’r disgyblion er mwyn sicrhau hyn.

Mabwysiadwyd : Tachwedd 2015

Arwyddwyd : ___ W. Bryn Williams

Cadeirydd

I lawrlwytho y polisi yma, cliciwch yma

 

 

 

Lluniau

Ysgol Glan y Môr ar flickr.com

Calendr

Cysylltu

Cyfeiriad: Ysgol Glan y Môr, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd LL53 5NU
Ffôn: 01758 701244
Ffacs: 01758 701310
E-bost: post@ysgolglanymor.org